""Er mwyn cynorthwyo ei ymchwiliad i ddiwylliant a'r berthynas newydd â'r Undeb Ewropeaidd, gofynnodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol am fewnwelediadau o'r effeithiau ar y diwydiannau creadigol. Hwylusodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gyfweliadau a grwpiau ffocws gydag artistiaid perfformio a theithiol a gweithwyr proffesiynol creadigol sy'n ymwneud â gwaith trawsffiniol. Manylir ar y canlyniadau yn y papur hwn. 

Y cefndir

Daeth cyfnod pontio Brexit i ben ar 1 Ionawr 2021 ac felly mae dwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers cyflwyno'r rheoliadau newydd ar gyfer gweithio a masnachu rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.

Ymgysylltu

Cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion 10 cyfweliad ac un grŵp ffocws rhwng 11 Rhagfyr 2023 a 26 Chwefror 2024. Pwrpas y cyfweliadau a’r grŵp ffocws oedd rhoi syniad i’r Pwyllgor o farn a phrofiadau artistiaid perfformio a gweithwyr creadigol sy'n teithio ac yn gweithio’n drawsffiniol.

 

Cyfranogwyr

Cymerodd 13 o gyfranogwyr ran yn y cyfweliadau a’r grŵp ffocws. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys artistiaid gwerin, roc ac offerynnol proffesiynol rhyngwladol o Gymru, rheolwyr artistiaid perfformio, gwneuthurwr offerynnau o Gymru, cyfarwyddwr mordeithio o Gymru, hyrwyddwyr cerddoriaeth ryngwladol a gwyliau offerynnol Cymru a chynrychiolwyr o fusnesau diwylliannol a lleoliadau yng Nghymru yn ogystal â sefydliad sy'n eiriol dros artistiaid yn y diwydiant cerddoriaeth.

Mae rhai o'r cyfranogwyr wedi perfformio a theithio yn Ewrop ers i'r rheoliadau newydd ddod i rym tra bod eraill wedi gwneud penderfyniad ymwybodol i beidio â gwneud hynny.

Cafodd cyfranogwyr eu cyrchu drwy arolwg sgrinio a anfonwyd at dros 35 o artistiaid a bandiau unigol a thros 15 o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru.

Cysylltwyd â rhai artistiaid perfformio, ond dewisodd yr artistiaid hynny beidio â chymryd rhan yn yr ymgysylltu, gan awgrymu ei bod yn rhy gynnar i fesur effaith y rheoliadau newydd, yn enwedig gan eu bod wedi dod i rym yn ystod y pandemig.

Diolch i bawb a gyfrannodd at y rhaglen ymgysylltu.

 

Methodoleg

Cynhaliwyd yr holl gyfweliadau a grwpiau ffocws ar-lein i alluogi artistiaid o Gymru, sy'n gweithio ar draws Ewrop a thu hwnt, i gymryd rhan.  

Trafodwyd y pwyntiau trafod a ganlyn yn ystod y cyfweliadau a’r grŵp ffocws:

1.   Yn eich barn chi, pa effaith mae Brexit wedi ei chael ar deithiau trawsffiniol, os o gwbl?

2.   A oes agweddau penodol ar y rheolau newydd yr hoffech chi eu trafod?

3.   Yn eich barn chi, pa effaith mae Brexit wedi ei chael ar gael gafael ar gyllid a rhwydweithiau, os o gwbl?

4.   Ydych chi’n meddwl bod digon o arweiniad a chymorth ar gael i chi ynghylch y berthynas newydd rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd? Pa gymorth ychwanegol a fyddai'n fuddiol i chi?

5.   Sut olwg sydd ar ddyfodol eich gwaith trawsffiniol, yn eich barn chi?

6.   Pa newidiadau, os o gwbl, hoffech chi eu gweld yn y dyfodol i wella gweithio trawsffiniol ar gyfer y sector diwylliant?

 

1.            Crynodeb o'r argymhellion

Argymhelliad 1. Seilwaith rheoli hygyrch a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, lle gall artistiaid perfformio a gweithwyr creadigol gael mynediad at gyngor a chymorth ymarferol i reoli a hyrwyddo eu datblygiad proffesiynol, ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Argymhelliad 2. Canllawiau hygyrch, cywir ar y rheoliadau newydd.

Argymhelliad 3. Cymhellion treth neu gyllid gan Lywodraeth Cymru i annog cyfnewid trawsddiwylliannol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Argymhelliad 4. Symleiddio gwaith papur nwyddau ar gyfer artistiaid perfformio a theithiol.

Argymhelliad 5. Lleihau cost carnets a rhoi cymhorthdal ar gyfer y blaendal sydd ei angen.

Argymhelliad 6. Cytundeb hepgor fisa ar gyfer artistiaid perfformio a theithiol.

Argymhelliad 7. Cynorthwyo artistiaid perfformio a theithiol i chwilio am gyfleoedd diwylliannol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Argymhelliad 8. Datblygu a chefnogi cyfleoedd diwylliannol yng Nghymru.

Argymhelliad 9. Creu rôl newydd, Comisiynydd Diwylliant Cymru, i ailsefydlu a meithrin partneriaethau a rhwydweithiau newydd gyda'r sector diwylliant yn yr Undeb Ewropeaidd. Gallai'r rôl hon hefyd fod yn gyfle i gefnogi artistiaid perfformio a gweithwyr creadigol yng Nghymru, gan hefyd hyrwyddo agwedd fwy cadarnhaol tuag at y sector diwylliant.

 

2.         Y prif themâu

Prif effeithiau’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd ar ddiwylliant

1.              Cytunodd yr holl gyfranogwyr fod y rheoliadau newydd wedi cael effaith negyddol ar eu gwaith trawsffiniol a bod y berthynas newydd rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, o fewn y sector diwylliant, yn berthynas anodd a dan straen.

2.            Soniodd y cyfranogwyr hefyd am gymhlethdodau ychwanegol nodi'r effaith a gynhyrchir gan y rheoliadau newydd, wrth i'w cyfnod dod i rym ddigwydd yr un pryd ag ansefydlogrwydd y pandemig, argyfwng ariannol ac argyfwng ynni – "mae'n storm berffaith."

3.            Soniodd yr holl gyfranogwyr am effaith tymor byr a hirdymor y berthynas newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd ar yrfaoedd artistiaid perfformio a gweithwyr creadigol yng Nghymru.

4.            Mynegodd y cyfranogwyr bryder am yr effaith benodol ar ddiwylliant yng Nghymru, ar adeg pan fo mwy o ddiddordeb nag erioed o'r blaen yn y Gymraeg a'i diwylliant.

"Mae'n rhwystredig iawn gan fod Cymru wedi mynd drwy newidiadau enfawr mewn hyder yn ei hiaith a’i diwylliant... ac mae bellach yn cael mwy o sylw prif ffrwd yn y cyfryngau. Ond mae cyflwyno hynny ar raddfa ymarferol wedyn yn cael ei rwystro gan yr holl rwystrau chwerthinllyd hyn i geisio cael hynny allan i’r byd, pan fo mwy o ddiddordeb yn awr nag erioed o’r blaen, mewn gwirionedd.”

Llai o gyfleoedd

Cytunodd yr holl gyfranogwyr fod llai o wahoddiadau a chyfleoedd i artistiaid perfformio a gweithwyr creadigol o Gymru, o fewn y sector diwylliannol yn Ewrop, ers i'r rheoliadau Brexit ddod i rym.

"Yn y math hwn o waith, mae yna uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, dyna sut mae pethau wedi bod erioed, dros ddeugain mlynedd o fod yn gerddor proffesiynol..... ond mae'n eithaf rhyfedd nad oes dim wedi dod i mewn ers Brexit."

5.            Mynegodd y cyfranogwyr eu pryderon cynyddol wrth i hyrwyddwyr ddewis hurio dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn unig.

"Mae pobl yn yr Undeb Ewropeaidd yn meddwl ei bod hi'n rhy anodd gweithio gyda'r Deyrnas Unedig - mae'n ormod o waith papur".

6.            Soniodd y cyfranogwyr am rai hyrwyddwyr, hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig, yn hurio dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn unig.

“Mae yna fuddion Brexit... i bobl sydd â phasbortau’r Undeb Ewropeaidd. Mae Prydain wedi colli ei ‘grym meddal’.”

7.             Un o gyflogwyr mwyaf y cyfranogwyr yw gwneuthurwr telynau o Ffrainc. Cyn Brexit, roedd y cyfranogwr yn arfer teithio ledled Ewrop gyda nhw. Ers Brexit, nid yw'r cyfranogwr wedi cael unrhyw waith gan y cwmni.

8.            Awgrymodd un rheolwr fod ymholiadau trefnu digwyddiadau i artistiaid wedi gostwng 20-30% ers Brexit a Covid-19.

9.            Dangosodd un cyfranogwr yr effaith benodol ar artistiaid ifanc. Er enghraifft, yn Nenmarc, mae angen i artistiaid ennill isafswm gofyniad cyn y gallant berfformio heb fisa.

10.        Dangosodd un gwneuthurwr offerynnau cerdd bwysigrwydd arddangos ei gynnyrch mewn digwyddiadau yn y diwydiant cerddoriaeth yn yr Undeb Ewropeaidd. Ni fu hynny’n bosibl ers Brexit.

11.           Esboniodd rhai cyfranogwyr sut mae'r farchnad ddiwylliannol y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd yn parhau, ac mewn rhai achosion wedi ehangu - er enghraifft, yn Unol Daleithiau America. Fodd bynnag, maent yn tueddu i fod yn farchnadoedd cymhleth a drutach ac nid oes ganddynt yr un apêl â marchnad yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer rhai artistiaid perfformio a theithiol.

12.         Dywedodd cyfranogwyr eraill y dylai artistiaid perfformio a theithiol fod yn ystyried cyfleoedd newydd y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd.

Goblygiadau ariannol

13.         Cyfeiriodd yr holl gyfranogwyr at oblygiadau ariannol y rheoliadau newydd.

14.         Soniodd llawer o gyfranogwyr am gostau ychwanegol carnets, os oes eu hangen, a'r blaendal sy'n 30 i 40% o werth yr eitem(au) sy’n cael eu cario.

15.         Eglurodd y cyfranogwyr bwysigrwydd nwyddau fel ffrwd refeniw ar gyfer artistiaid perfformio a theithiol. Oherwydd costau cludo, mae rhai artistiaid yn cyflogi busnesau yn yr Undeb Ewropeaidd i gynhyrchu eu nwyddau yn lleol, i arbed gorfod cludo eu nwyddau.  Mae hyn yn cael effaith amlwg ar fusnesau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru.

"Os na allwch chi wneud hynny [gwerthu nwyddau tra ar daith] neu os mai dim ond ychydig bach y gallwch chi fynd gyda chi oherwydd y gost, yna bydd yn ergyd fawr iawn i'r hyn rydych chi mewn gwirionedd yn mynd adref gyda chi o ganlyniad i'r daith honno."

16.         Dangosodd rhai cyfranogwyr yr effaith ar ffyrdd o weithio, yng Nghymru a'r Undeb Ewropeaidd, wrth i hyrwyddwyr ei chael hi'n anodd ymrwymo i drefniadau, gan gynnig cyfrannau o’r elw yn hytrach na ffioedd gwarantedig i artistiaid perfformio.

"Mae hyrwyddwyr [yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru] yn llai parod i fentro ar ffioedd mwy.....gofynnir i chi yn amlach o lawer i dderbyn cyfrannau.....fel cyfran o’r elw gyda nifer o gynulleidfaoedd. Felly rydych chi'n cymryd rhywfaint o elw'r swyddfa docynnau yn hytrach na ffi warantedig. Mae ffordd hollol newydd o weithio yn datblygu…..mae’n sîn anoddach nag oedd hi o’r blaen.”

17.         Dangosodd un cyfranogwr sut mae ei fusnes cynhyrchu offerynnau cerddorol wedi gweld gostyngiad mewn gwerthiant yn yr Undeb Ewropeaidd, yn bennaf oherwydd costau allforio yn ogystal â mwy o anhawster wrth fewnforio deunyddiau o'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer cynhyrchu.

18.         Soniodd cyfranogwr arall am golledion ariannol, oherwydd ffioedd ychwanegol, wrth fasnachu gyda chwmni yn Iwerddon.

19.         Esboniodd rhai cyfranogwyr fod cael gafael ar unrhyw gyllid y bwriedir iddo gymryd lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi dod yn faes cystadleuol iawn ac nid yw terfynau amser byr yn rhoi amser i ystyried posibiliadau a chyfleoedd yn eu cyfanrwydd.

Gweinyddiaeth

20.       Soniodd yr holl gyfranogwyr am y gwaith papur cynyddol a llafurus, o ganlyniad i'r rheoliadau newydd, gydag artistiaid a gweithwyr creadigol yn gorfod treulio mwy o amser ar weinyddu a llai ar greadigrwydd.

“Dw i ddim yn meddwl y gallwn ni ddiystyru arwyddocâd yr effaith o orfod deall a chydymffurfio â hynny i gyd, [y gwaith papur]…..mae’n cymryd llawer iawn o amser ac mae’n gur pen go iawn.”

21.         Soniodd y cyfranogwyr am effaith mwy o waith papur ar eu creadigrwydd.

“Yn amlwg, mae yna eithriadau, ond ar y cyfan, mae [y gwaith papur ychwanegol] wir yn effeithio ar feddylfryd artist, ac mae hynny’n effeithio arnoch chi o safbwynt creadigol hefyd, nid dim ond yn ymarferol.”

22.        Soniodd rhai cyfranogwyr - artistiaid sy’n dod i’r amlwg, yn enwedig – eu bod yn cael cynnig gwaith munud olaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn wedi dod yn fwyfwy anodd ei dderbyn, oherwydd y rheoliad hyd at 90 diwrnod o fewn unrhyw 180 diwrnod, a’r gwaith papur gweinyddol ychwanegol.

23.        Soniodd llawer o’r cyfranogwyr am eu rhwystredigaeth gyda’r system bost a danfon nwyddau, ers Brexit, mewn perthynas â nwyddau.

24.        Esboniodd un cyfranogwr, sy'n rhedeg label recordio, sut mae rhai cwmnïau yn yr Undeb Ewropeaidd wedi gwrthod delio â nhw gan fod y gwaith papur wedi dod yn rhywbeth mor feichus.

Materion teithio a ffiniau

25.       Cododd yr holl gyfranogwyr bryderon am y cyfyngiad ar arosiadau 90 diwrnod o fewn 180 diwrnod. Mae hyn yn effeithio ar artistiaid perfformio a gweithwyr creadigol mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, gallai cerddor gefnogi sawl taith wahanol yn ystod un arhosiad yn yr Undeb Ewropeaidd - nid yw hyn yn bosibl erbyn hyn.

"Dwi'n besimistaidd... Mae'n gymaint o gam yn ôl o lle'r oeddem ni, pan allwn i lwytho fy nghar gyda fy offerynnau a gwneud beth bynnag roeddwn i eisiau ei wneud yn y bôn mewn 27 gwlad arall, sydd yn gyffredinol yn ganolbwynt diwylliannol y byd."

26.       Esboniodd un cyfranogwr fod 80% o'i waith yn arfer bod yn yr Undeb Ewropeaidd, cyn Brexit. Mae arhosiad o 90 diwrnod o fewn 180 diwrnod yn gwneud hyn yn amhosibl, gan arwain at golli enillion.

27.        Rhoddodd cyfranogwyr eraill enghreifftiau o orfod gwrthod gwaith yn yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd y rheolau hyd at 90 diwrnod o fewn unrhyw 180 diwrnod.

28.       Esboniodd rhai cyfranogwyr sut mae'r rheolau hyd at 90 diwrnod o fewn unrhyw 180 diwrnod hefyd yn effeithio ar eu trefniadau teithio personol - er enghraifft, gwyliau teuluol.

29.       Soniodd y cyfranogwyr am heriau teithio i’r Undeb Ewropeaidd gydag offerynnau cerdd a’r dryswch parhaus ynghylch gofynion carnet.

30.       Dangosodd llawer o gyfranogwyr sut maent yn cael offerynnau cerdd yn lleol wrth berfformio yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw hyn yn bosibl bob amser.

31.         Rhoddodd rhai cyfranogwyr enghreifftiau o artistiaid teithiol yn teithio i'r Undeb Ewropeaidd yn eu cerbyd personol, gan gario eu nwyddau eu hunain yn unig, yn gorfod prynu tocyn cludo nwyddau, sy'n llawer mwy costus.

32.        Mae'r newidiadau yn effeithio'n fawr ar gerddorfeydd, yn enwedig y rheolau masnach arforol (cabotage), lle caniateir tri stop yn unig i gerbyd dros 3.5 tunnell, cyn gorfod dychwelyd i'r Deyrnas Unedig.

33.        Soniodd llawer o'r cyfranogwyr am y diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o'r rheoliadau newydd gan swyddogion y ffin yn y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, dywedwyd wrth artistiaid yn Dover bod angen carnets ar gyfer eu gitarau, ond nid oedd hynny'n wir.

“Mae angen i swyddogion y ffin o fewn y Deyrnas Unedig gael eu hyfforddi’n well…maen nhw’n amlwg yn parhau i fod wedi drysu ynghylch y rheolau.”

34.        Soniodd rhai cyfranogwyr, sy'n hyrwyddo gwyliau rhyngwladol yng Nghymru, am y croeso anffodus mae masnachwyr o'r Undeb Ewropeaidd sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig yn ei gael weithiau, gan gynnwys yng Nghymru.

"Dylai fod yn glir - maen nhw [artistiaid Ewropeaidd] yn dod i mewn ar gyfer gweithgareddau o'r math yma....ac rydyn ni eisiau annog hynny a'i wneud yn lle cyfeillgar i fasnachu."

35.       Soniodd cyfranogwyr eraill am wynebu'r un dryswch ar ffiniau'r Undeb Ewropeaidd hefyd - er enghraifft, yn Sweden yn ddiweddar.

Diffyg hyder

36.       Rhannodd y cyfranogwyr eu nerfusrwydd ynghylch y gwaith papur gweinyddol a goblygiadau "gwneud pethau'n anghywir", yn enwedig ymhlith artistiaid perfformio ifanc a newydd.

"Un o'r pethau mwyaf sydd wedi digwydd yw’r ergyd i hyder y fasnach sy'n mynd y ddwy ffordd, ers Brexit. Yn sicr mae diffyg hyder yn y broses.”

37.        Dangosodd rhai cyfranogwyr, yn enwedig artistiaid sy'n dod i'r amlwg, yr her o orfod cymryd cyfrifoldeb am gymaint o rolau.

"Rydyn ni'n gwneud llawer ein hunain, rydyn ni'n trefnu teithiau, ni yw'r asiant, ni yw'r rheolwr ac mae hyd yn oed y syniad o ddysgu'r holl bethau hynny a sicrhau eich bod chi'n eu gwneud nhw’n iawn mor llethol. ... Mae'n eich digalonni chi oni bai ei fod yn werth yr holl drafferth."

38.       Esboniodd rhai cyfranogwyr sut mae'r rheoliadau newydd wedi cyfyngu ar eu dyheadau i ddatblygu fel artistiaid rhyngwladol.

"Yn y tymor hir mae'n cyfyngu ar uchelgais rhywun, mae cymaint o fiwrocratiaeth cyn i rywun deithio ac ystyried teithio."

39.       Soniodd llawer o'r cyfranogwyr am y diffyg eiriolwyr dros artistiaid perfformio sy'n dod i'r amlwg i helpu i ddatblygu a hyrwyddo'r diwydiant cerddoriaeth ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

"Dwi'n gweld fy hun fel artist eithaf breintiedig - dwi'n gerddor ac mae gen i dîm mawr o bobl tu ôl i mi. Pe na bai gen i reolwyr yn fy nghefnogi.......rydw i'n amau y buaswn i ar goll yn llwyr mewn byd o waith papur ac ni fyddwn i’n ei wneud."

40.       Rhannodd rhai cyfranogwyr bryder dros genedlaethau'r dyfodol yn y sector diwylliant, yn benodol yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

41.         Dywedodd y cyfranogwyr fod gostyngiad amlwg yn y cyfleoedd sydd ar gael i feithrin cerddorion ifanc yng Nghymru, yn enwedig y rhai o gefndir difreintiedig.

42.        Cymharodd rhai cyfranogwyr y cyfleoedd sydd ar gael iddynt i berfformio o fewn yr Undeb Ewropeaidd, o oedran ifanc gyda'r cyfleoedd cyfyngedig sydd ar gael i gerddorion ifanc heddiw.

“Roedd yn llawer haws mynd dramor i berfformio. Nawr mae'r cyfan yn llawn biwrocratiaeth... mae’n mynd i dorri calonnau pobl ifanc cyn iddynt ddechrau, o'r ddwy ochr. Mae hynny'n drist."

Rhwydweithiau a phartneriaethau sy'n prinhau

43.        Cytunodd yr holl gyfranogwyr fod y rheoliadau newydd wedi rhoi straen ar bartneriaethau a rhwydweithiau presennol gyda'r Undeb Ewropeaidd.

"Mae Cymru'n eithaf da gyda chelfyddydau cymunedol. Mae gennym ni lefel reit dda o brofiad yn y sector, ac roedd gallu rhannu hynny, a dysgu.....wel, mae hynny wedi mynd."

44.        Awgrymodd un cyfranogwr, sy’n gyfarwyddwr gŵyl gerddoriaeth ryngwladol sy’n cael ei chynnal yng Nghymru, y gallai'r rheoliadau newydd gael effaith ar gefnogaeth noddwyr rhyngwladol i ddigwyddiadau yng Nghymru. Byddai hynny yn ei dro yn effeithio ar gyfleoedd i artistiaid o Gymru.

“Rydw i’n ofni y bydd y rhwystrau yn gwneud Cymru’n llai apelgar i noddwyr rhyngwladol. Pam fuasen nhw’n noddi gŵyl yng Nghymru os yw'n costio chwarter y pris iddyn nhw wneud yr un peth mewn mannau eraill yn Ewrop?"

45.       Soniodd y cyfranogwyr am eu pryder am effaith rhwydweithiau a phartneriaethau coll ar Gymru, o ganlyniad i’r rheoliadau newydd.

"Rydw i'n poeni bod Cymru'n dod yn llai apelgar i sefydliadau a chwmnïau sydd wedi bod mor gefnogol yn y gorffennol."

46.       Dywedodd un cyfranogwr fod tri o'i asiantau yn ei chael hi'n fwyfwy anodd ei gefnogi, gan fod eu rhwydweithiau Ewropeaidd “wedi diflannu."

47.        Esboniodd y cyfranogwyr effaith economaidd y rheoliadau newydd ar fusnesau yng Nghymru. Er enghraifft, mae rhai cwmnïau offerynnau cerdd yng Nghymru yn wynebu heriau cynyddol wrth brynu offerynnau o'r Undeb Ewropeaidd, sydd yn ei dro yn cyfyngu ar werthiant offerynnau cerdd yng Nghymru.

Effaith ar greadigrwydd

48.       Mynegodd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr bryder am effaith rhwydweithiau a phartneriaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd sy’n gwanhau, o ran creadigrwydd o fewn y sector diwylliant yng Nghymru,

“Mae'n ddiwylliannol bwysig rhannu a chyfnewid syniadau artistig. Mae’n ffordd o ddod â gwledydd a diwylliannau at ei gilydd.”

49.       Dangosodd llawer o gyfranogwyr fanteision a gwerth cydgynhyrchu a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a chwmnïau o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

"Rydych chi'n colli'r cyffro hwnnw o rannu syniadau.....y gallu i sefyll ochr yn ochr ag artistiaid eraill a diwylliannau eraill a chael y parch hwnnw tuag at eich gilydd."

"Rydyn ni wedi gadael Ewrop Greadigol ac mae hynny'n bechod go iawn oherwydd doedd dim rhaid i ni o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny'n amlwg yn mynd i olygu llai o gyllid, a llai o gyfleoedd i gael partneriaethau".

50.       Mae rhai cyfranogwyr yn pryderu am y gostyngiad yn nifer y cerddorion Ewropeaidd ac artistiaid perfformio eraill sy'n teithio i'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru, i astudio a pherfformio - "Rydyn ni ar ein colled y ddwy ffordd."

51.         Fe wnaeth cyfranogwyr eraill amlygu’r ‘doniau sy’n cael eu colli’, lle mae artistiaid perfformio a theithiol sydd â dinasyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn gadael Cymru, i fanteisio ar gyfleoedd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

“Pan rydyn ni’n colli’r celfyddydau, rydyn ni’n colli llawer mwy nag ydyn ni’n ei dybio.”

Cymorth ac arweiniad

52.       Mae'r holl gyfranogwyr yn teimlo mai diffyg arweiniad a chefnogaeth fu un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu artistiaid perfformio a gweithwyr creadigol, sydd eisiau perfformio a theithio yn yr Undeb Ewropeaidd ers i'r rheoliadau newydd ddod i rym.

"Byddech wedi disgwyl y byddai llywodraeth a oedd yn gyrru deddfwriaeth i'n tynnu ni o'r Undeb Ewropeaidd, wedi sefydlu rhwydwaith cefnogol o gyngor ac arweiniad a allai eich helpu i lywio'n broffesiynol [drwy’r newidiadau]."

Cael mynediad at wybodaeth

53.       Cytunodd yr holl gyfranogwyr fod cael gafael ar wybodaeth am y rheoliadau newydd wedi bod yn heriol iawn, os nad yn amhosibl ar adegau.

"Yn gymaint ag yr ydw i’n casáu'r hyn mae Brexit wedi ei wneud, gallaf fwrw ymlaen a delio â hynny, ond dim ond os oes gennyf yr wybodaeth gywir y gallaf wneud hynny."

54.       Soniodd y cyfranogwyr am orfod cysylltu â nifer o sefydliadau a gwefannau - er enghraifft, Cymdeithas Annibynnol y Cerddorion, Undeb y Cerddorion, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r wefan, ukeartswork.info i gael gafael ar wybodaeth am y rheoliadau newydd.

55.       Esboniodd llawer o'r cyfranogwyr pa mor anodd yw hi i ddeall yr wybodaeth a'u bod yn cael eu trin fel masnachwyr, yn hytrach nag artistiaid.

56.       Soniodd rhai cyfranogwyr na fu unrhyw ymgais i gyhoeddi adnoddau hygyrch - er enghraifft, cynnwys hawdd ei ddarllen.

57.        Dywedodd rhai cyfranogwyr fod rhywfaint o gymorth ar gael - er enghraifft, gwefan vivalavisa, ond nid yw wedi ei hysbysebu'n dda.

Gwybodaeth ddryslyd ac anghyson

58.       Cyfeiriodd yr holl gyfranogwyr at gymhlethdod y rheoliadau newydd, yn enwedig y ffaith bod y gofynion yn wahanol ar gyfer pob un o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd. Er enghraifft, nid yw pob gwlad yn cynnig hyd at 90 diwrnod o fewn unrhyw arhosiad o 180 diwrnod; mae Gwlad Groeg yn cynnig un diwrnod mewn un perfformiad cyn bod angen fisa.

“Rydyn ni wedi gorfod treulio ein hamser yn ceisio deall rhywbeth oedd yn eithaf amhosibl ei ddeall am y cwpl o flynyddoedd cyntaf.”

59.       Amlygodd un cyfranogwr ofynion 'rhyfedd' rhai o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd - er enghraifft, yr Iseldiroedd.

"Mae gan yr Iseldiroedd ofyniad eithaf rhyfedd; mae angen i chi fod yn rhan sylweddol neu hanfodol o ddigwyddiad artistig nodedig' i fanteisio ar eu hepgoriad fisa a thrwydded waith.....Pwy all honni ei fod yn gwneud hynny?"

60.       Mynegodd yr holl gyfranogwyr bryder am yr wybodaeth gamarweiniol a’r wybodaeth sy’n gwrth-ddweud sy’n cael ei rhannu, hyd yn oed ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

"Mae hynny [gwybodaeth sy'n gwrthdaro] mewn gwirionedd yn achosi mwy o broblemau na'r newidiadau gwirioneddol eu hunain oherwydd ei fod yn atal pobl rhag mynd yn y lle cyntaf."

61.         Soniodd rhai cyfranogwyr nad yw gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei diweddaru’n rheolaidd o hyd.

Diffyg seilwaith rheoli

62.       Cytunodd y cyfranogwyr fod diffyg seilwaith rheoli yng Nghymru i gefnogi artistiaid perfformio, yn enwedig artistiaid sy'n dod i'r amlwg, i ddatblygu eu gyrfaoedd ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

 

 

3.         Gwella gweithio trawsffiniol yn y dyfodol

63.       Awgrymodd cyfranogwyr ffyrdd o wella gweithio trawsffiniol ac adfer hyder artistiaid perfformio a gweithwyr creadigol wrth berfformio a theithio o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Argymhelliad 1: Seilwaith rheoli hygyrch a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, lle gall artistiaid perfformio a gweithwyr creadigol gael mynediad at gyngor a chymorth ymarferol i reoli a hyrwyddo eu datblygiad proffesiynol, ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

"Trueni na fuasai byddin fach o bobl yn gallu cael ei chyllido mewn rhyw ffordd a bod band neu gerddor ifanc yn gallu mynd atyn nhw a dweud ‘mae gen i'r gig yma - fedrwch chi fy helpu i.......Dwi'n siŵr pe bai’r math hwnnw o help ar gael... fel y cefais i... y buasai hynny'n gam cyntaf i ailgychwyn yr holl symudiad hwn."

Argymhelliad 2: Canllawiau hygyrch, cywir ar y rheoliadau newydd.

“O ran fy mhrofiad personol, mae angen i ni ei gwneud hi’n haws ac yn symlach i gwmnïau ddeall y rheolau…byddai hynny wedyn yn cael effaith ar y cyfleoedd sydd ar gael i berfformwyr fel fi.”

Argymhelliad 3: Cymhellion treth neu gyllid gan Lywodraeth Cymru i annog cyfnewid trawsddiwylliannol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

"Mae angen gwneud gwaith sylweddol, er mwyn trwsio'r berthynas gyda marchnadoedd rhyngwladol..... Mae hi mor bwysig o fewn y diwydiannau creadigol... Mae'n anodd cynnal busnes ar gefndir o ddrwgdeimlad."

Argymhelliad 4: Symleiddio gwaith papur nwyddau ar gyfer artistiaid perfformio a theithiol.

“Does gennym ni ddim yr un dyhead [i weithio’n drawsffiniol] bellach. Pam fyddech chi'n ei wneud, gyda chymaint o rwystrau ar y ffordd?"

Argymhelliad 5: Lleihau cost carnets a rhoi cymhorthdal ar gyfer y blaendal sydd ei angen.

Argymhelliad 6: Cytundeb hepgor fisa ar gyfer artistiaid perfformio a theithiol.

"Rydyn ni mor agos [yn ddaearyddol] at wledydd Ewrop, rydw i eisiau gwneud y ffin honno mor hwylus â phosibl o ran annog artistiaid i deithio... Rydyn ni'n mynd i golli partneriaethau pwysig os na fydd hynny'n digwydd."

Argymhelliad 7: Cefnogi artistiaid perfformio a theithiol i chwilio am gyfleoedd diwylliannol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

"Ymhell y tu hwnt i Brydain a Brexit, mae'r byd yn symud ymlaen, ac mae cwmnïau llongau pleser yn ehangu..... Cyn belled ag yr wyf i’n gweld pethau, y môr fydd y dyfodol."

Argymhelliad 8: Datblygu a chefnogi cyfleoedd diwylliannol yng Nghymru.

"Os yw cerddorion a phobl yn y diwydiant diwylliannol yn colli gwaith dramor, mae angen i ni geisio gwneud yn iawn am hynny yma [yng Nghymru]."

Argymhelliad 9: Creu rôl newydd, Comisiynydd Diwylliant Cymru, i ailsefydlu a meithrin partneriaethau a rhwydweithiau newydd gyda'r sector diwylliant yn yr Undeb Ewropeaidd. Gallai'r rôl hon hefyd fod yn gyfle i gefnogi artistiaid perfformio a gweithwyr creadigol yng Nghymru, gan hefyd hyrwyddo agwedd fwy cadarnhaol tuag at y sector diwylliant.

“Mae angen mwy o fuddsoddiad….. os ydym o ddifrif am gefnogi ein hartistiaid a’u gyrfaoedd.”